'Pocket Welsh' for beginners
Yn ôl cyfrifiad 2011, dim ond 19% o boblogaeth Cymru sy’n medru’r Gymraeg, ond yng Ngwynedd, lle mae dinas Bangor wedi’i lleoli, mae’r iaith yn cael ei siarad gan dros 65% o'r boblogaeth ac yn cael ei defnyddio’n ddyddiol yn y gyfundrefn addysg, yn y gweithle ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
Yng ngweithdy Blas ar y Gymraeg, mi fyddwch chi’n dysgu rhai ymadroddion pob dydd y medrwch chi eu rhoi ar waith yn ystod eich arhosiad ym Mangor. Mi fyddwch chi hefyd yn cael cyfle i brofi’r dulliau addysgu cyfredol sy’n cael eu defnyddio yn rhaglen eang Prifysgol Bangor o gyrsiau Cymraeg i Oedolion.
Yn ystod y sesiwn, mi fydd rhai o nodweddion allweddol ynganu’r Gymraeg yn cael eu cyflwyno ac mi ddewch chi hefyd yn ymwybodol o brif strwythurau brawddegol yr iaith. Efallai hefyd y cewch chi gyfle i gydymdeimlo â’r dau brif beth sy’n codi arswyd ar ein dysgwyr ni: y treigladau ac ateb “Ia/Oes/Do” ac ati!