Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Llety

Llety Prifysgol

Mae'r brifysgol yn cynnig nifer cyfyngedig o ystafelloedd. Darperir mwy o fanylion yn agosach at y gynhadledd.

Llety amgen yn y cyffiniau

Rydym wedi llunio rhestr o westai a darparwyr llety ym Mangor a'r cyffiniau.

Nodwch os gwelwch yn dda: nid yw'r llety a restrir o anghenraid yn cael ei argymell gan y Brifysgol.

Mae Bangor yn gyrchfan gwyliau haf poblogaidd, felly gwnewch yn siŵr o archebu eich ystafelloedd ddigon ymlaen llaw.

Archebu llety

Llenwch a dychwelwch y ffurflen gysylltiedig yn unol â'r cyfarwyddiadau ar y ffurflen.

Lawrlwythwch :

Llenwch y ffurflen archebu a’i hanfon yn ôl at:

Sharon Hughes,
Gwasanaethau Cynadledda,
Neuadd Reichel,
Prifysgol Bangor,
Ffordd Ffriddoedd,
Bangor, Gwynedd LL57 2TR

Ffôn: (01248) 38 2822
Ebost: s.hughes@bangor.ac.uk

Ar y trên

Mae Prif Adeilad y Celfyddydau tua 10 munud o waith cerdded o’r orsaf reilffordd neu, fel arall, gallwch gymryd tacsi o’r tu allan i’r orsaf i’r safle, ar gost o ryw £3.50.

Mewn car

Os byddwch yn cyrraedd mewn car, cod post y safle yw LL57 2DG. Mae lle parcio am ddim i'w gael a gellwch gael eich trwydded barcio pan fyddwch yn cofrestru.

 

Site footer