Ymholiadau
Galwad am Bapurau
Mae'r gynhadledd yn anelu i fynd i'r afael ag ystod eang o ymchwil yn ymwneud ag iaith a gwybyddiaeth. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn hyrwyddo gwaith empirig yn ymwneud â semanteg wybyddol, disgwrs blanedig, ac ieithyddiaeth wybyddol gymhwysol. Trefnir sesiynau thematig o gwmpas y testunau canlynol:
- Dulliau ymarferol o ymdrin ag ieithyddiaeth wybyddol
- Dulliau ieithyddol wybyddol o addysgu iaith
- Geireg a chysyniadau geiriadurol
- Iaith a gofod
- Ymgorfforiad
- Cyfatebiaeth a throsglwyddo cysyniadol
- Gwybyddiaeth leoledig ac iaith
Yn ychwanegol i'r themâu hyn, mae pynciau perthnasol eraill yn cynnwys:
- Parthau a semanteg ffrâm
- Categoreiddio, prototeipiau ac amlystyredd
- Trosiad a disgwrs
- Trawsenwi a disgwrs
- Gofod meddyliol ac asio cysyniadol
- Esblygiad iaith
- Amrywiad ieithyddol a newid iaith
- Ystum
- Teipoleg a dadansoddiadau saernïol o ieithoedd y byd
- Caffael
- Corpora a dulliau ystadegol
- Modelau cyfrifiannu gwybyddol
Mae ieithyddiaeth wybyddol trwy ddiffiniad yn hynod o ryngddisgyblaethol, ac felly yn ogystal ag ymchwil sy'n ieithyddol yn bennaf, rydym hefyd yn gwahodd cyflwyniadau cysylltiedig sy'n seiliedig ar ddisgyblaethau megis seicoleg (gwybyddol a chymdeithasol), niwrowyddoniaeth, anthropoleg, bioleg, deallusrwydd artiffisial, ac astudiaethau disgwrs a chyfathrebu.
Bydd y cyflwyniadau yn 20 munud a 10 munud ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth. Bydd hefyd sesiwn bosteri. Saesneg fydd iaith y gynhadledd.
Caniateir i gyfranogwyr gyflwyno mwyafswm o un sgwrs (fel awdur sengl neu awdur cyntaf) ac un poster, ond gallant fod yn gyd awduron gwaith pellach. Wrth gyflwyno, gofynnir i chi nodi os ydych yn bwriadu i'r cyflwyniad fod ar gyfer sgwrs neu boster. Hefyd, gofynnir i chi nodi a yw eich cyflwyniad yn cyfateb ag un o'r sesiynau thematig a restrir uchod. Os nad ydyw, cliciwch 'Arall'.
Bydd pob crynodeb yn cael ei adolygu'n ddwbl ddall gan bwyllgor gwyddonol rhyngwladol o gydweithwyr (ac felly ni ddylasent gynnwys enwau awduron).
Ers 2012 mae UK-CLA wedi cyhoeddi detholiad o gyflwyniadau cynhadledd yn y gyfres 'Selected Papers from UK-CLA Meetings' (ISSN 2046-9144); Bydd UK-CLC6 yn parhau â'r traddodiad hwn.
Yn annibynnol i'r crynodeb, nodwch mewn e-bost i'r trefnwyr ar ukclc2016@bangor.ac.uk os oes gennych unrhyw ofynion arbennig neu anableddau. Bydd hyn yn caniatáu trefnu cymorth ar eich cyfer ddigon ymlaen llaw.
Cyn y gynhadledd a dyddiadau'r Gynhadledd
Gweithdai cyn y gynhadledd: Dydd Llun 18 Gorffennaf, 2016
Prif gynhadledd: Dydd Mawrth 19 Gorffennaf - Dydd Gwener 22 Gorffennaf, 2016
Amserlen o ddyddiadau pwysig
- Dyddiad olaf cyflwyno crynodebau: 10 Rhagfyr 2015
- Cyhoeddir y penderfyniadau erbyn: 15 Chwefror 2016
- Archebu buan yn agor: 15 Chwefror 2016
- Archebu buan yn cau: 15 Ebrill 2016
- Cau'r cyfnod o gofrestru siaradwyr i'r gynhadledd: 31 Mai 2016
- Archebu llety ar y campws yn cau: 8 Gorffennaf 2016