Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Pryd

Dydd Mawrth 19 Gorffennaf - Dydd Gwener 22 Gorffennaf, 2016

(Gweithdai cyn y gynhadledd: Dydd Llun 18 Gorffennaf, 2016

Ymhle

Prifysgol Bangor,
Bangor,
Gwynedd,
LL57 2DG

UKCLC 2016 ar Twitter

UKCLC 2016 ar Facebook

UKCLC 2016

Croeso i 6ed Cynhadledd UKCLC

Mae Bangor yn cael ei chydnabod yn un o'r lleoliadau prifysgol mwyaf prydferth yn y DU - rhwng môr a mynyddoedd Eryri. Mae'r lleoliad, y golygfeydd a'r cyffiniau ymysg y rhesymau pam fod y nifer o fyfyrwyr sy'n dewis dod i Fangor yn parhau i godi a'i bod yn denu ymchwilwyr o bob rhan o'r byd i gynadleddau ac ar ymweliadau ymchwil estynedig, mewn nifer helaeth o ddisgyblaethau a meysydd ymchwil. Mae’n cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer cynhadledd ryngddisgyblaethol ddwys i ysgogi'r meddwl, yn dilyn yn nhraddodiad Cynadleddau UK-CLC blaenorol.

Mae'r Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Bangor yn brif ganolfan Ieithyddiaeth Wybyddol a bydd yn croesawu 6ed Cynhadledd Ieithyddiaeth Wybyddol y DU i brydferthwch naturiol Gogledd Cymru.

Prif siaradwyr a gadarnhawyd

  • Penelope Brown (Max Planck Institute for Psycholinguistics, Nijmegen, yr Iseldiroedd)
  • Kenny Coventry (Prifysgol East Anglia, DU)
  • Vyv Evans (Prifysgol Bangor, DU)
  • Dirk Geeraerts (Prifysgol Leuven, Gwlad Belg)
  • Len Talmy (Prifysgol Buffalo, NY, UDA)
  • Dedre Gentner (Prifysgol Northwestern, IL, UDA)

Dyddiadau allweddol

  • Dyddiad olaf cyflwyno crynodebau: 6 Rhagfyr 2015
  • Cyhoeddir y penderfyniadau erbyn: 15 Chwefror 2016
  • Gweithdai cyn y gynhadledd: Dydd Llun 18 Gorffennaf, 2016
  • Prif Gynhadledd: Dydd Mawrth 19 Gorffennaf - Dydd Gwener 22 Gorffennaf, 2016


Site footer