Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwibdeithiau

Dydd Mercher, 20 Gorffennaf

Rydym yn falch o gael cynnig cyfle i gynrychiolwyr ymweld â golygfeydd trawiadol gogledd Cymru brynhawn Mercher yn ystod wythnos y gynhadledd. Os oes gennych ddiddordeb archwilio cyffiniau godidog Bangor gallwch ddewis un o dair taith bosibl: Eryri, Hanes gogledd Cymru, a thraethau Môn. Bydd rhai o'r rhain yn ddibynnol ar y tywydd; bydd cynlluniau wrth gefn os bydd glaw.

Mae'r gwibdeithiau yn dibynnu ar isafswm o 25 cynrychiolydd i bob coets. Os oes gan lai na 25 ddiddordeb, gwneir cynlluniau amgen. Bydd y cynrychiolwyr yn cael eu codi o faes parcio Prif Adeilad y Celfyddydau, am 1.30pm; byddant yn cael ei gollwng tua 6pm y tu allan i Brif Adeilad y Celfyddydau. Y pris sylfaenol i fynd ar un o'r gwibdeithiau yw £16, ond efallai y bydd rhai o'r opsiynau, fel cestyll a thai hanesyddol, yn golygu costau ychwanegol, y dylid delio â nhw'n unigol os yw cynrychiolwyr am ymweld â nhw. Am ragor o wybodaeth, yn cynnwys orielau lluniau o'r gwahanol lefydd o ddiddordeb, cliciwch ar y dolenni allanol a ddarparwyd.
Felly, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw penderfynu; ydych chi eisiau archwilio mynyddoedd, cestyll, neu draethau hardd gogledd orllewin Cymru? Gadewch inni wybod ar y ffurflen gofrestru.

Os penderfynwch aros ym Mangor ar y prynhawn Mercher, mae dewis arall ichi: Fel dewis amgen i'r gwibdeithiau, bydd darlithoedd ar Gymru a'r Cymry yn cael eu cynnal yn Pontio, Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi newydd y Brifysgol.

Gwibdaith A - Eryri

Gwibdaith B: Hanes Gogledd Cymru

  • Prif gyrchfan:
  • Opsiynau pellach (yn dibynnu ar y tywydd):
  • Bydd yr ymweliad â Chastell Conwy'n cael ei arwain gan mwyaf, ond bydd gan gynrychiolwyr amser i symud o gwmpas ar eu liwt eu hunain ac ailymweld â rhannau o'r castell. Yn nhrefi Conwy a Llandudno, bydd cynrychiolwyr yn cael gwybod am y prif lefydd o ddiddordeb ac yna'n mynd ar eu liwt eu hunain.

Gwibdaith C: Ynys Môn

Site footer